Hwb o £6.4 miliwn i gymunedau yng Nghymru
10 Awst 2009 Mae Leighton Andrews, y Dirprwy Weinidog dros Adfywio, wedi cyhoeddi fod cymunedau ledled Cymru ar fin elwa ar gyllid gwerth mwy na £6.4 miliwn o Raglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol (CFAP) Llywodraeth Cynulliad Cymru.Mae’r Rhaglen hon yn gynllun grant sydd ar gael i fudiadau cymunedol neu wirfoddol i’w helpu i greu cyfleusterau a gwasanaethau newydd, a chafodd ei lansio yn 2002. Yn ystod y cylch cyllido presennol, dyfarnwyd grantiau gwerth £6.413m i 48 o brosiectau ledled Cymru. Yn y gorffennol, mae’r CFAP wedi dyfarnu cyllid gwerth cyfanswm o £64 miliwn i 660 o brosiectau.
Meddai Leighton Andrews, y Dirprwy Weinidog:
"Gall y Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol wneud gwahaniaeth gwirioneddol i grwpiau cymunedol a gwirfoddol ar lawr gwlad. Gall y grantiau a ddyfernir amrywio o rai miloedd o bunnoedd i osod system wresogi newydd, i grantiau llawer mwy gwerth cannoedd o filoedd i adeiladu cyfleusterau newydd.
"Erbyn hyn, mae llawer o’r prosiectau a ariannwyd gan grantiau cynharach wedi dwyn ffrwyth ac wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’w cymunedau. Mae’r cyfleusterau hyn gwerth cymaint mwy na brics a mortar yn unig - maen nhw wrth galon ein cymunedau ac yn helpu pobl, yn hen ac yn ifanc, i gwrdd â chyfeillion newydd, i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol ac i adeiladu bywydau iachach a hapusach. Rwy’n siŵr y bydd y cyllid rydw i wedi’i gyhoeddi heddiw yn cyfrannu ymhellach at adfywio rhai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru."
Gweler y ddogfen isod am ddadansoddiad cyfan o'r ariannu sydd ar gael.
Raglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol - Prosiectau ariannu (Saesneg yn unig)
