Rhowch hwb i’ch siawns o ennill contractau
26 Chwef 2010Mae WCVA, mewn partneriaeth â DHRinterim, yn cynnal cyfres beilot o ddosbarthiadau meistr tendro ledled Cymru. Bydd y gweithdai "skill-builder" ½ diwrnod dwys hyn yn canolbwyntio ar wella sgiliau ymarferol a gwybodaeth mudiadau gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru, sy’n gweithio mewn meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, neu gweithgarwch economaidd / bod heb waith.
Mae’r gweithdai wedi’u hanelu at yr unigolion a’r mudiadau hynny sydd eisoes yn gyfarwydd â thendro, y rhai hynny sydd wedi ymgymryd â lefel o weithgarwch tendro ac sydd wedi gweld angen i gynyddu eu sgiliau a’u gallu.
Bydd ‘Llunio ac Ysgrifennu Tendrau Cystadleuol’ yn edrych ar becynnau cymorth a thechnegau i wella’ch siawns o lwyddo gyda’ch tendr.
- 20 Ebrill 2010, Y Rhyl
- 21 Ebrill 2010, Caerfyrddin
Bydd ‘Cyflwyniadau Tendro Cystadleuol’ yn edrych sut ddylid cyflwyno bid effeithiol a chynnig profiad uniongyrchol o fynd ati i ‘werthu’ eich tendr drwy roi bywyd iddo.
- 5 Mai 2010, Caerfyrddin
- 6 Mai 2010, Y Rhyl
Am wybodaeth bellach, gwelwch www.sustainablefundingcymru.org.uk/events

