Elusennau’n creu 500 o swyddi newydd yng Nghymru
4 Awst 2009Bydd elusennau a mudiadau gwirfoddol yn creu dros 500 o swyddi newydd ledled Cymru rhwng Hydref 2009 a Mawrth 2010.
Bydd y cyllid ar gyfer y swyddi'n dod o Gronfa Swyddi’r Dyfodol Llywodraeth y DU yn sgil cais llwyddiannus ar ran y sector gwirfoddol dan arweiniad y corff ymbarél, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).
Nod Cronfa Swyddi'r Dyfodol yw rhoi cymorth i bobl ifanc sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd lle mae diweithdra’n uchel, drwy ddarparu cyllid ar gyfer creu150,000 o swyddi newydd ar draws y DU yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Mae dros 100 o fudiadau yng Nghymru’n rhan o gais y sector gwirfoddol dan arweiniad WCVA a fydd yn creu swyddi mewn sawl maes, gan gynnwys gwaith amgylcheddol, gwaith ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gofal plant, ieuenctid a gwaith cymunedol.
Ymhlith y mudiadau sy’n rhan o’r cais y mae Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, Cymdeithas y Groes Goch Brydeinig, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Canolfannau Cyngor Ar Bopeth, a mudiadau cymunedol llai megis meithrinfeydd, prosiectau ailgylchu, ymddiriedolaethau datblygu, partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf, prosiectau cyffuriau a ffermydd dinas yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
Dywedodd Graham Benfield, OBE, Prif Weithredwr WCVA: 'Mae hwn yn newydd ardderchog. Mae elusennau a mudiadau gwirfoddol yn darparu amgylchedd cefnogol sy’n ddelfrydol ar gyfer pobl sy’n ailymuno â’r gweithle, ac yn cynnig cyfleoedd amrywiol a fydd yn rhoi boddhad mawr.
‘Dylai unrhyw fudiad sy’n dymuno cael gwybod mwy neu sy’n awyddus i wneud cais i greu swyddi drwy WCVA gysylltu â’n Lein Gymorth ar 0800 2888 329 neu help@wcva.org.uk’

