Trosglwyddo Asedau Cymunedol

4 Tach 2009

RHAGLEN GWERTH £13 MILIWN I HELPU CYMUNEDAU CYMRU I HELPU EU HUNAIN

Cafodd rhaglen newydd gwerth £13 miliwn i helpu grwpiau cymunedol yng Nghymru i adfywio eu hardaloedd ei lansio’n swyddogol heddiw gan y Gronfa Loteri Fawr a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Bydd y Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT) newydd gwerth miliynau o bunnoedd yn darparu arian cyfalaf a refeniw i gefnogi trosglwyddo asedau, megis tir ac adeiladau, o sefydliadau sector cyhoeddus i berchnogaeth gan y gymuned.

Gall prosiectau ymgeisio am grantiau rhwng £300,000 ac £800,000, a bydd yr arian yn helpu grwpiau cymunedol i adfywio ac adnewyddu’r asedau a’u datblygu, eu rheoli a’u cynnal er mwyn gwella’u bywoliaethau a’u cymdogaethau

Gan gyhoeddi lansiad swyddogol y rhaglen, meddai’r Dirprwy Weinidog dros Adfywio, Leighton Andrews AC, "Mae llawer o asedau cyhoeddus yng Nghymru nad ydynt yn cael eu defnyddio hyd eithaf eu potensial ac mae grymuso’r gymuned i ddefnyddio ac addasu’r adeiladau a’r tiroedd hyn ar gyfer eu hanghenion hwy’n brif nod y rhaglen. Mae’r Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn cwmpasu llawer o werthoedd. Mae’n ymwneud â menter; datblygu cynaliadwy; iechyd a lles; atebion lleol i broblemau lleol. Ond yn bwysicaf oll mae’n ymwneud â’r potensial i gynnwys ac ymgysylltu o ran nodi’r atebion gorau i adfywio tir ac adeiladau segur, a dod â bywyd newydd i’r cyfleusterau sydd ar gael mewn cymunedau ar gyfer y cymunedau eu hunain"

Ychwanegodd: "Gall cymunedau ryddhau eu hunain a bydd y Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn helpu i sicrhau bod yr adnoddau ar gael i hwyluso’r daith honno."

Meddai Cadeirydd y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru ac Aelod Bwrdd y DU, Huw Vaughan Thomas, sydd wrth ei fodd â’r cyhoeddiad, "Rydym eisiau helpu cymunedau i fod yn gryfach ac yn fwy cynaliadwy drwy eu cynorthwyo i ddod o hyd i asedau megis tir neu adeiladau, a’u datblygu. Byddwn yn gwneud hyn drwy ddatblygu asedau a drosglwyddir o gyrff sector cyhoeddus i sefydliadau mentrus sy’n cynnwys y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu’n weithredol ac yn creu buddion ar eu cyfer. Ein nod yw helpu mwy o bobl i elwa o’u hasedau cymunedol lleol a hefyd, cynhyrchu incwm a chyflogaeth leol."

Mae’r rhaglen bellach yn agored i geisiadau. I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen CAT a sut y gallwch ymgeisio am ariannu, ewch i www.cronfaloterifawr.org.uk, ffoniwch 029 2067 8200, ffôn testun 0845 602 1659 neu e-bostiwch cat@cronfaloterifawr.org.uk

ENGHREIFFTIAU O BROSIECTAU TROSGLWYDDO ASEDAU LLWYDDIANNUS

Enghraifft 1 Canolfan Gorseinon, Abertawe – canolfan arloesedd a adeiladwyd gan Ddinas a Sir Abertawe ar safle hen waith dur Bryngwyn yng Ngorseinon ynghyd â datblygiad tai sylweddol newydd. I ddechrau, mae Canolfan Gorseinon ar brydles hir dymor gan Ddinas a Sir Abertawe am rent rhad ac yn cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Ddatblygu Gorseinon. Bydd hefyd yn ganolfan i weithgareddau a chynhyrchu incwm yr Ymddiriedolaeth, gan gynnwys amrywiaeth eang o fentrau a chyfleusterau cymunedol. Mae’r ganolfan flaengar newydd yn cynnwys caffi, cyfleusterau cynadledda a gweithdai ac yn darparu 40 o leoedd gofal plant ychwanegol, gyda swyddi newydd yn cael eu creu yn y flwyddyn gyntaf yn y caffi a’r feithrinfa http://www.gdt.org.uk/canolfangorseinon.htm

Enghraifft 2 Galeri, Caernarfon – canolfan ddatblygu seiliedig ar ganlyniadau
Mae Galeri Caernarfon Cyf yn fenter gymunedol nid er elw preifat a sefydlwyd ym 1992 o dan ei henw blaenorol (Cwmni Tref Caernarfon), sy’n gweithredu fel ymddiriedolaeth ddatblygu yn nhref hanesyddol Caernarfon yng Ngwynedd, Gogledd Cymru. Prosiect mwyaf sylweddol ac uchelgeisiol yr Ymddiriedolaeth hyd yn hyn oedd datblygu ‘Canolfan Menter Greadigol Galeri’. Dyma Ganolfan Menter Greadigol newydd sbon gwerth £7.5m a agorodd ei drysau yn Noc Victoria yn y dref ar 7 Mawrth 2005. Mae’r ganolfan yn gartref i awditoriwm 400 sedd hyblyg sydd hefyd yn gwasanaethu fel sinema (lleoliad adloniant byw cyntaf Caernarfon ers dros 20 mlynedd), nifer o stiwdios ymarfer, man celfyddydau, caffi bar, ystafelloedd i’w hurio, cyfleusterau cynadledda a 27 o unedau menter, sydd erbyn hyn yn cynnwys 15 o gwmnïau creadigol y maent i gyd yn ymwneud â gwaith celfyddydol neu greadigol. http://www.galericaernarfon.com/eng/about.aspx

Enghraifft 3 Prosiect Trydan Dŵr Tal-y-bont ar Wysg - ynni, seiliedig ar dir
Mae Tal-y-bont ar Wysg yn gartref i’r cynllun trydan dŵr cyntaf yng Nghymru sy’n eiddo i gymuned. Mae arian o werthu’r trydan yn cael eu rhoi’n ôl i’r gymuned er mwyn cefnogi cynlluniau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy. Mae’r cynlluniau hyn yn helpu i leihau tlodi tanwydd a chefnogi taith Tal-y-bont ar Wysg tuag at fod yn gymuned carbon-niwtral gyntaf Cymru (Cynllun Gweithredu Menter Gymdeithasol 2009).

Enghraifft 4 Canolfan STAR, Sirhywi
Daeth Tenantiaid a Thrigolion Sirhywi, a adnabyddir fel grŵp STAR, yn bartner arweiniol datblygu’r ganolfan gymunedol STAR arfaethedig. Cyflawnodd y Bartneriaeth Cymunedau’n Gyntaf astudiaeth dichonoldeb ar gyfer rheoli safle’r hen ysgol ac awgrymwyd partner ychwanegol, sef Cymdeithas Tai Unedig Cymru, ar gyfer y prosiect. Roedd hyn yn ymagwedd newydd o ran cyflwyno canolbwynt cymunedol penodedig wrth wraidd cymdogaeth Sirhywi. Fel partner datblygu adeiladau’r prosiect, prynodd Cymdeithas Tai Unedig Cymru safle’r ysgol gan y cyngor, gan ddatgloi gwerth y tir er mwyn ariannu’r cyfleuster cymunedol arfaethedig. Dymuniad grŵp STAR yw ailadeiladu ymddiriedaeth o fewn ei gymuned er mwyn anelu at ddyfodol mwy disglair ar gyfer ardal Sirhywi. Mae gallu cynyddol y grŵp yn ei roi ar y trywydd iawn ar gyfer cyflwyno gweledigaeth wreiddiol canolfan sy’n symbol bod hyder a balchder yn dychwelyd i’r gymuned leol.