Cymorthfeydd cofrestru ar gyfer Cymorth Rhodd
10 Awst 2009Dydd LLun 14 Medi 2009, Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint Mold - Cystyllwch â June Brady 01352 7400 e-bost june.brady@flvc.org.uk
Dydd Iau 15 Medi 2009, Technium CAST, Bangor - Cystyllwch â Beryl Norgrove 01341 422575 e-bost dolgellau@mantellgwynedd.com
Dydd Mercher 30 Medi 2009, Carmarthenshire Centre for Crafts, St Clears - Cystyllwch â Sian Thomas/Sara Edwards 01267 245555
Dydd Mercher 11 Tachwedd 2009, Llandrindod, lleoliad i’w gadarnhau
Mae WCVA mewn cydweithrediad â’r CGSau yn cynnal cymorthfeydd cofrestru ar gyfer Cymorth Rhodd ledled Cymru yn ystod yr hydref. Nod y cymorthfeydd yw annog mudiadau nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer Cymorth Rhodd i ymuno â’r cynllun. Mae Cymorth Rhodd yn galluogi elusennau i hawlio treth yn ôl ar roddion gan unigolion - am bob punt a roddir gall yr elusen hawlio 28c yn ychwanegol oddi wrth Dollau Tramor a Chartref EM.
Yn ystod cyfnod o ddirwasgiad mae’n bwysig bod y sector yn manteisio ar bob ffynhonnell incwm, yn enwedig rhoddion gan unigolion, er hynny amcangyfrifir bod £700 miliwn heb ei hawlio bob blwyddyn. Ar hyn o bryd gall elusennau hawlio Cymorth Rhodd ar roddion a wnaethpwyd hyd at chwe blynedd yn ôl - fodd bynnag, o fis Ebrill nesaf ymlaen bydd hyn yn gostwng i gyfnod o bedair blynedd - felly mae angen i elusennau wneud yn siwr eu bod yn mynd ati i hawlio am bopeth sydd ar gael iddynt os nad ydynt am fod ar eu colled.
Yn ôl ymchwil a gynhaliwyd gan Dollau Tramor a Chartref EM a Sefydliad Cymorth yr Elusennau (CAF) y rhwystr mwyaf sy’n atal elusennau rhag hawlio Cymorth Rhodd yw’r broses cyn cofrestru - canfod a deall yr wybodaeth berthnasol i’w galluogi i hawlio. Felly, pwrpas y cymorthfeydd cofrestru yw darparu’r wybodaeth angenrheidiol i fudiadau i’w galluogi i gofrestru, i hawlio treth yn ôl, ac i hyrwyddo Cymorth Rhodd er mwyn sicrhau nad ydynt ar eu colled. Bydd dyddiadau a lleoliadau pellach yn cael eu cadarnhau yn y man.
I gadw lle ar un o’r digwyddiadau, cysylltwch â Llinell Gymorth WCVA ar 0800 2888 329, e-bost ekinsman@wcva.org.uk

