Y Gweinidog yn cyhoeddi bod y cylch ceisiadau ar gyfer cyllid yn ymwneud â chydraddoldeb ar agor

21 Medi 2009

Mae £883,000 yn y Gronfa flynyddol ar gyfer Hyrwyddo Cydraddoldeb a chaiff yr arian ei ddefnyddio i gynorthwyo prosiectau refeniw sy’n cael eu rheoli gan sefydliadau yn y trydydd sector, yn y sector cymunedol neu yn y sector cyhoeddus ar gyfer gwasanaethau fydd yn mynd i’r afael ag anghenion pobl sy’n wynebu amryw o wahanol fathau o wahaniaethu yn eu bywydau bob dydd. Mae hefyd yn cynnwys cyllid ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, digwyddiad a gynhelir yn flynyddol ar 8 Mawrth. Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod y flwyddyn nesaf yw ‘Hyrwyddo Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus a Gwleidyddol’.

Caiff y Grant Cynhwysiant blynyddol o £800,000 ei ddefnyddio i ariannu prosiectau refeniw a gaiff eu rheoli gan sefydliadau yn y trydydd sector, yn y sector cymunedol neu yn y sector cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau i ffoaduriaid, ceiswyr lloches, mewnfudwyr, sipsiwn a theithwyr.

Dywedodd Dr Brian Gibbons:

"Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymrwymedig i sicrhau bod gan bawb y cyfle i gymryd rhan ac i gyfrannu tuag at fywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru. Mae’n rhaid i’n cymunedau fod yn gryf, yn gadarn ac yn gytûn fel eu bod yn gallu ymateb yn effeithiol i gyflymder a maint y newid economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yn yr unfed ganrif ar hugain.

Y llynedd, cyhoeddwyd ein Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid sy’n amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol ffyniannus i Gymru sy’n rhydd o unrhyw hiliaeth ac anffafriaeth, lle mae pawb yn gallu cyflawni eu potensial, lle maent yn gallu defnyddio gwasanaethau mewn dull teg a chyfartal a lle maent yn gallu cyfrannu’n llawn at fywyd gwleidyddol a sifil y wlad.

Eleni, cyhoeddwyd ein Cynllun Cydraddoldeb Sengl sy’n amlinellu sut y byddwn yn hybu cydraddoldeb a sut y byddwn yn diwallu ein dyletswyddau cydraddoldeb statudol ar anabledd, hil a rhyw.

Byddwn yn defnyddio’r un egwyddorion bras gyda’r meysydd cydraddoldeb newydd - oed, crefydd a chred neu ddiffyg cred, cyfeiriadedd rhywiol a thrawsrywedd. Mae’n edrych ar sut yr ydym yn asesu effaith ein gwaith ar wahanol grwpiau a’r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r effaith hon dros y tair blynedd nesaf. Bydd y cynllun yn ceisio sicrhau bod gan ein sefydliad egwyddorion cydraddoldeb a hawliau dynol fel rhan ganolog o’i waith a’i ddiwylliant," dywedodd.

Rwy’n gobeithio bydd y grantiau hyn yn cynorthwyo sefydliadau ac yn eu galluogi i gyflwyno’r strategaeth a’r cynllun cydraddoldeb sengl a chyda’n gilydd, y byddwn yn gallu sicrhau bod gan bawb y cyfle i gymryd rhan ac i gyfrannu tuag at fywyd economaidd, cymdeithasol, diwylliannol, sifil a gwleidyddol y wlad."

Medi 15 2009