Cyrsiau Cyfranogaeth Cymru

29 Medi 2009

Mae’r cyrsiau hyfforddiant Cyfranogaeth Cymru yn anelu i adeiladu sgiliau a gallu rheolwyr a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn y sectorau cyhoeddus, trydydd a phreifat er mwyn cael ymrwymiad cyhoeddus gwell wrth ddylunio, datblygu a darparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y dinesydd ar gyfer pobl Cymru.

Rydym yn rhedeg nifer o gyrsiau sydd yn amrywio o gyrsiau rhagarweiniol i’r rhai sydd newydd ddechrau gweithio ar ymgysylltiad cyhoeddus a chyfranogaeth i gyrsiau ar gynllunio, dulliau o gyfranogaeth a gwerthuso data.

I weld y rhaglen hyfforddiant llawn neu ewch i http://www.participationcymru.org.uk/training/training-courses?diablo.lang=cym.

I archebu le ar gwrs printiwch, cwblhewch a dychwelwch gopi o’r ffurflen bwcio yn y llyfryn trwy bost neu ffacs, neu gwnewch gais ar-lein yn www.wcva.org.uk/hyfforddiant