Cynhadledd gyllido’r trydydd sector yng Nghymru

4 Medi 2009

Dyddiad: 7 Hydref 2009
Lleoliad: Stadiwm Liberty, Abertawe

Mae cynhadledd gyllido'r trydydd sector eleni yn llawn i'r ymylon gyda mwy o sesiynau, ystod ehangach o gyllidwyr (gan gynnwys rhai o'r hen ffefrynnau!) a syniadau diddorol ar gyfer ffyrdd newydd a gwell o weithio. Nod hyn yw eich helpu i leihau'ch costau a'ch gwastraff ac i gael gafael ar fwy o adnoddau a chefnogaeth. Rydym wedi canolbwyntio ar bedair prif thema:

1. Caffael a thendro

2. Cyllidwyr a ffrydiau cyllido

3. Asedau a menter

4. Gweithio'n ddoethach

Yr un prisiau â 2008! Cofiwch drefnu’ch lle’n fuan!

I gael copi o’r ffurflen archebu, cliciwch yma neu cysylltwch â Desg Gymorth WCVA ar 0800 2888 329 neu eventsadmin@wcva.org.uk