Cynhadledd Flynyddol a CCB WCVA
4 Tach 2009Y cam cyntaf yw'r anoddaf: newid yn yr hinsawdd i'r rheiny nad ydynt yn fudiadau gwyrdd
Dydd Iau 3 Rhagfyr, Venue Cymru, Llandudno
Bydd rhai o gefnogwyr mwyaf blaenllaw'r frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd yn cymryd rhan yng nghynhadledd flynyddol WCVA eleni mewn ymgais i gael mudiadau nad ydynt wedi ymrwymo'n llawn i’r agenda honno i ymuno yn yr ymgyrch.
Bydd gwleidyddion, academyddion, unigolion blaenllaw yn y trydydd sector a phrosiectau sy'n ysbrydoli yn cael llwyfan yn y cynulliad blynyddol mwyaf o bobl y sector yng Nghymru ar 3 Rhagfyr.
Cynhelir y digwyddiad yn Venue Cymru Llandudno. Newid yn yr hinsawdd yw thema'r digwyddiad sydd wedi'i anelu'n benodol at grwpiau nad ydynt eto wedi ymrwymo i'r agenda cynhesu byd-eang.
Jane Davidson AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, fydd yn rhoi’r brif araith a Phrif Weithredwr WCVA, Graham Benfield OBE, fydd yn trafod sut y gall WCVA ‘droi’r geiriau’n weithredoedd’ a rhoi arweiniad i’r sector ar newid yn yr hinsawdd.
Ymysg y siaradwyr eraill fydd Ken Peattie, Athro Marchnata a Strategaeth yn Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd; Stephen Hale, Cyfarwyddwr y Gynghrair Werdd; ac Emily Harvey o brosiect Stirling Going Carbon Neutral yr elusen Keep Scotland Beautiful.
Cynhelir gweithdai lle ceir ‘enghreifftiau ysbrydoledig o’r hyn y gall y trydydd sector ei gyflawni’ gan fudiadau a fydd yn cynnwys Bywydau Cynaliadwy Abertawe (Swansea Sustainable Lives); prosiect Tref Werdd Blaenau Ffestiniog; Ymddiriedolaeth Tir Cwm Harri; Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau’r Merched; prosiect Ynni Gwent a Chanolfan y Dechnoleg Amgen.
I gloi'r gynhadledd, Y cam cyntaf yw'r anoddaf: newid yn yr hinsawdd i'r rheiny nad ydynt yn fudiadau gwyrdd, bydd cinio a chyflwynir Gwobrau Rhwydwaith Cymru ar gyfer eleni.
I lawrlwytho'r rhaglen clicwch yma
I lawrlwytho'r ffurflen archebu clicwch yma
neu cysylltwch a Lein Gymorth WCVA ar 0800 2888 329 neu eventsadmin@wcva.org.uk am y ffurflenni.

