Manteision adennill costau llawn
- Cywirdeb – bydd cyllidwyr yn cael darlun cywir o gost y prosiect
- Tryloywder – dull eglur, diffynadwy o ddyrannu costau
- Effeithlon – llai o amser yn cael ei dreulio ar drafod ffigurau
- Priodol – cyllidwyr yn talu am y cyfan o’r gorbenion hynny sy’n cefnogi eu prosiect, a’r rheini’n unig
- Cynaliadwy – mae mudiadau sy’n derbyn nawdd yn goroesi; mae prosiectau’n parhau
Daw llawer o fanteision i fudiadau yn sgil deall adennill costau llawn. Mae’n galluogi mudiad i werthfawrogi'n union faint o arian sydd ei angen ac yn bwysicach mae’n rhoi syniad clir o’r effaith a gaiff prosiect, gweithgarwch neu wasanaeth ar gynaliadwyedd y mudiad. Bydd arferion ariannol da yn sicr o arwain at gynllunio a phenderfyniadau doethach a credu dyfodol mwy diogel.
Gall adennill costau llawn roi gwell dealltwriaeth i fudiadau yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd cyllido:
- Wrth wneud cais am grantiau rhaid i fudiadau ymdrechu i adennill yr holl gostau
- Mewn contractau bydd rhaid negodi’r gost lawn o ddarparu gwasanaeth
- Yn achos masnachu, rhaid i brisiau nwyddau neu wasanaethau adlewyrchu gwir gost cynhyrchu neu ddarparu’r nwyddau hynny
- Canfod a llenwi bylchau mewn codi arian
Mae’n bwysig nodi na fwriedir i ddefnydd o’r templad ddisodli negodiadau cyllido, ond gall fod yn sail defnyddiol iddynt.

