Cytuno ar y ffordd ymlaen
Mae hyn yn golygu mynd â’r ‘meddwl strategol’ i’r cam nesaf a sicrhau cytundeb ar genhadaeth eich mudiad. Bydd hyn fel arfer yn golygu derbyn adborth nifer o randdeiliaid, megis y staff, gwirfoddolwyr, rheolwyr, ymddiriedolwyr, defnyddwyr, cyllidwyr a mudiadau partner. Fodd bynnag, yr uwch reolwyr ac aelodau’r bwrdd ymddiriedolwyr ddylai wneud y penderfyniad terfynol.
Gellir sicrhau bod y cyfeiriad y mae’r mudiad yn mynd iddo yn un priodol a’i fod yn diwallu anghenion pawb trwy gyfeirio’n ôl at ddatganiad o fwriad y mudiad.
Datganiad o fwriad yw ddatganiad byr o weledigaeth neu nodau’ch mudiad. Dylai ddisgrifio beth yw prif nodweddion y mudiad mewn ffordd syml. Gan ei seilio ar y nodau a’r amcanion yn eich dogfen lywodraethu, dylai’ch datganiad o fwriad gynnwys:
- Yr hyn mae’ch mudiad yn ceisio’i wneud
- Pwy sy’n elwa, defnyddwyr eich gwasanaeth neu fuddiolwyr
- Sut ydych chi’n cyflawni’ch nodau
- Sut ydych chi’n barnu ansawdd eich gwaith
- Ble ydych chi’n gwneud y gwaith
Cofiwch nad yw datblygu datganiad o fwriad yn golygu ‘bod yn bopeth i bawb’. Rhaid i chi fod yn bendant iawn o ran yr hyn y gallwch ac na allwch ei gyflawni, gosod blaenoriaethau i’ch gwaith a gorfod dweud na ar adegau, os yw rhywbeth yn mynd yn groes i’ch cenhadaeth a’ch gwerthoedd.
Adnoddau defnyddiol
- Mae’r ymgynghorwyr nfpSynergy wedi cyhoeddi canllaw i gynorthwyo mudiadau i ddatblygu cenhadaeth a gweledigaeth gref. Mae’r adroddiad, sy’n dwyn y teitl Mission Impossible, yn dilyn ymchwil a ddangosodd bod mwy nag un o bob pump o elusennau mwyaf y DU yn methu â chyfleu eu gweledigaeth, eu gwerthoedd a’u pwrpas i’w cefnogwyr neu eu staff. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd i unigolion deimlo eu bod yn rhan o’r mudiad a’i waith. Gellir lawrlwytho crynodeb o’r adroddiad yn www.nfpsynergy.net/freereports
- Mae Picture this: a guide to scenario planning for voluntary organisations yn ganllaw ymarferol a gyhoeddwyd gan NCVO ar gyfer unrhyw un sy’n ymgymryd â rôl arweinydd ac sy’n awyddus i gael eu mudiad i feddwl a gweithredu’n strategol. Mae’n edrych ar gynllunio sefyllfaoedd fel ‘proses o ddatblygu dewis o sawl dyfodol gwahanol er mwyn llunio strategaeth hyfyw’. Gellir prynu copi caled neu ei lawrlwytho mewn fformat PDF yn - www.ncvo-vol.org.uk/picturethis

