Gwerthuso

Gwerthuso canlyniadau ac effaith y cynllun strategol yw diwedd y daith o ran cynllunio strategol. Pan fydd y cynllun strategol wedi’i ymgorffori’n llawn o fewn y mudiad, mae’n amser camu’n ôl ac edrych ar yr hyn sy’n gweithio’n dda ac, yr un mor bwysig, yr hyn nad yw’n gweithio gystal.

Bydd angen i chi gynnal adolygiadau ysbeidiol i fonitro a gwerthuso:

  • Strwythurau, prosesau, polisïau a gweithdrefnau mewnol e.e. lefelau staffio, arfarniadau, dulliau gweithio
  • Agweddau allanol y gwasanaethau a darperir gennych e.e. adborth ar safon y gwasanaeth, niferoedd y defnyddwyr, ymholiadau.

Bydd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol, nid yn unig i’ch mudiad, ond hefyd i gyllidwyr posibl, i ddenu defnyddwyr newydd a gwirfoddolwyr, ac i ddenu cefnogaeth partneriaid a’r cyhoedd.

Mae’n bwysig hefyd ‘cadw’r strategaeth yn fyw’ trwy addasu’ch strategaeth dros amser a’i hadolygu bob rhyw 3-5 mlynedd, oni bai bod yr amgylchedd yr ydych yn gweithio ynddo’n newid yn barhaus. Dylech fanteisio ar y cyfle mewn cyfarfodydd gyda staff ac ymddiriedolwyr i drafod ac adolygu’r cynllun strategol a dylai pobl newydd sy’n ymuno â’ch mudiad – staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr – fod yn ymwybodol o’r cynllun strategol.

Mae’r cam gwerthuso’n adeg ddelfrydol i benderfynu pa brosiectau neu weithgareddau newydd yr ydych am ymgymryd â hwy ac a yw eich mudiad mewn sefyllfa i’w cyflawni, ac felly, i ddechrau ar y cylch cynllunio strategol unwaith eto.

Adnoddau defnyddiol

  • Mae’r Gwasanaeth Gwerthuso Elusennau (CES) wedi cynhyrchu toreth o wybodaeth ar systemau ansawdd, monitro a gwerthuso, gan gynnwys cyhoeddiad eithriadol o ddefnyddiol o’r enw ‘First steps in monitoring and evaluation’. Am ragor o fanylion, ffoniwch 020 7713 5722 neu e-bostiwch enquiries@ces-vol.org.uk neu ewch i wefan CES sydd hefyd yn cynnwys manylion am eu gwasanaethau hyfforddi ac ymgynghori, a dolenni at safleoedd eraill sy’n cefnogi gwella perfformiad yn y sector gwirfoddol a chymunedol.