Sut byddwch chi’n codi arian?
Pwy ddylai fod yn gyfrifol am godi arian?
Bydd dewis unigolyn neu grŵp i godi arian yn dibynnu ar natur y gweithgarwch, yr amser a’r adnoddau sydd ar gael, ac amcanion y strategaeth codi arian a chynllun busnes neu strategol y mudiad.
Gall unrhyw un sydd â’r sgiliau angenrheidiol fod yn gyfrifol am weithgareddau codi arian. Mewn rhai sefyllfaoedd, bydd y person addas yn aelod o’r staff, mewn eraill, gall fod yn wirfoddolwr, yn ymddiriedolwr neu'n aelod o’r pwyllgor.
Bydd codwyr arian da fel arfer yn meddu ar rai o’r sgiliau canlynol:
- Credu’n gryf yn y mudiad neu’r achos
- Sgiliau cyfathrebu ardderchog
- Sgiliau cynllunio a threfnu
- Sgiliau negodi
- Profiad o gyllid a chyllidebau
- Creadigrwydd a brwdfrydedd
- Personoliaeth benderfynol a brwdfrydig
Y ffordd oriau o fynd ati yw ffurfio grŵp codi arian lle bydd yr aelodau’n gallu annog, cefnogi a dysgu oddi wrth ei gilydd a sicrhau bod pethau’n cael eu gwneud ar amser.
Os nad oes gennych bobl sy’n meddu ar y sgiliau neu’r profiad angenrheidiol, yna efallai y gall eich cyngor gwirfoddol sirol (CGS) lleol neu Lein Gymorth WCVA gynnig cyngor a chefnogaeth i chi.
Mae’r opsiynau eraill y gallech eu hystyried yn cynnwys asiantaeth allanol, ymgynghorwyr codi arian neu godwyr arian llawrydd, neu gyflenwyr sy’n arbenigo mewn sgiliau penodol megis ysgrifennu bidiau.
Sut bynnag y byddwch yn penderfynu mynd o’i chwmpas bydd rhaid i chi gydlynu’ch gweithgareddau. Cofiwch hysbysu pawb yn eich grŵp neu fudiad o unrhyw gynnydd ac unrhyw ganlyniadau.
Targedau codi arian
Byddwch yn realistig wrth bennu targedau codi arian gan na fydd pob gweithgarwch codi arian yn dangos canlyniadau ar unwaith. Er enghraifft, efallai bod rhoddwyr mawr wedi rhoi eu rhodd gyntaf beth amser yn ôl, ar ôl mynychu digwyddiad neu ar ôl derbyn gohebiaeth gennych. Gall gymryd amser i ddatblygu a meithrin y berthynas hon a gall fod yn anodd rhagweld pa bryd y byddwch yn derbyn y rhodd fawr nesaf.
Pan fyddwch yn pennu targedau codi arian bydd rhaid i chi ystyried y canlynol:
- Gweithio tuag at sefydlu sylfaen incwm mwy hirdymor a sicr
- Beth fydd effaith datblygiadau’r dyfodol ar faint o incwm fydd ei angen arnoch?
- Costio cynlluniau a nodi unrhyw ddiffygion incwm
- Dylid targedu ymdrechion i hybu’ch cronfeydd wrth gefn
- Rhaid i’r gwaith barhau i gadw’ch incwm presennol
Cyllideb codi arian
Ar ôl cytuno ar strategaeth neu gynllun codi arian, y cam nesaf fydd penderfynu ar y gyllideb sydd ei hangen i ariannu’r gweithgareddau arfaethedig. Gall cyllideb codi arian gynnwys:
- Amser staff, teithio a threuliau
- Llogi ystafelloedd ac offer
- Costau marchnata a hyrwyddo
- Papur ysgrifennu ac argraffu
- Amser a threuliau gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr
Gall fod yn ddefnyddiol hefyd i gyfrifo cost effeithiolrwydd gweithgarwch neu gynllun codi arian a defnyddio’r ffigur i benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â’r gweithgarwch neu ei gynnal yn y dyfodol.

