Cysylltu â chynllunio
Man cychwyn delfrydol ar gyfer unrhyw weithgarwch codi arian yw edrych yn fanwl ar y mudiad ei hun.
Beth yw strategaeth a chynllun busnes y mudiad?
Nid yw ymdrechion codi arian yn debygol o lwyddo os nad yw cyflwr gweithredol y mudiad yn dda, ac nid yw codi arian er ei fwyn ei hun yn gwneud unrhyw synnwyr. Dylai mudiadau gwirfoddol a chymunedol fod yn gwbl eglur ynghylch yr amcanion neu’r canlyniadau allweddol y maent am eu cyflawni, a sut y bydd codi arian yn helpu i gyflawni hyn. Dyma rai o’r pethau pwysicaf y dylech eu hystyried:
- Gweledigaeth a dyheadau – beth ydych chi’n ei gynrychioli? A yw’n unigryw?
- Nodau ac amcanion
- Dadansoddiad SWOT – canfod cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau
- Dadansoddiad PEST – gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a thechnolegol
- Statws cyfreithiol ac elusennol y mudiad
- Prif randdeiliaid a buddiolwyr
- Ffynonellau ac amrediad incwm ac asedau – yn y presennol, y gorffennol a’r dyfodol
- Archwiliad o sgiliau a chyfrifoldebau staff
- Y gweithgareddau presennol a rhai’r dyfodol y bydd angen nawdd arnynt
- Yr adnoddau sydd eu hangen o ran staff, adeiladau, offer ayb
- Monitro a gwerthuso
Beth fydd cwmpas y strategaeth codi arian?
Bydd cwmpas a dyfnder strategaeth codi arian yn dibynnu ar y gweithgarwch dan sylw. Er enghraifft, bydd strategaeth dair blynedd yn edrych yn dra gwahanol i’r trefniadau codi arian ar gyfer un digwyddiad unigol. Ni ddylai olygu nad yw mudiadau'n ymateb i gyfleoedd, felly ni ddylai fod ar fudiad ofn newid cynllun neu strategaeth codi arian os bydd angen hynny. Ond cofiwch y dylai bob amser gyd-fynd â nodau ac amcanion cyffredinol y mudiad.
Sut mae’r cynllun codi arian yn cyd-fynd â’r broses gynllunio gyffredinol?
Beth bynnag fo maint neu gwmpas y strategaeth codi arian, bydd rhaid i chi sicrhau ei bod yn "cyd-fynd" â’r cynllun ehangach ar gyfer y mudiad. Mae llawer o fudiadau’n defnyddio cylch busnes tair blynedd i sicrhau bod pob gweithgarwch yn cyd-fynd â’u hamcanion. Mewn cynllun busnes tair blynedd, bydd y flwyddyn gyntaf yn fanwl a sefydlog, bydd yr ail flwyddyn yn cael ei hadolygu a’i diwygio ar ôl cwblhau’r flwyddyn gyntaf, a bydd cynllun y drydedd flwyddyn yn amlinelliad o’r cyfeiriad cyffredinol.

