Paratoi strategaeth codi arian gynaliadwy
Mae strategaeth codi arian yn amlinellu beth fydd gofynion cyllido tebygol, dros gyfnod yn y dyfodol, ac mae’n amlinellu sut y mae’r mudiad yn bwriadu codi arian i ddiwallu’r anghenion hynny. Wrth baratoi strategaeth codi arian gynaliadwy bydd rhaid i’r mudiad ystyried nifer o gwestiynau.
- Beth yw nodau ac amcanion y mudiad, y prosiect neu'r ddigwyddiad?
- Beth ydych chi’n bwriadu ei wneud i gyflawni’r nodau hyn?
- Pa brosiectau newydd hoffech chi eu sefydlu?
- Pa adnoddau fydd eu hangen arnoch?
- Pa fath o arian fydd ei angen a faint?
- O ble daw’r arian? (canfod yr arian)
- Sut ydych chi’n mynd i godi arian?
- Sut a phryd dylid adolygu’ch cynlluniau?
Pa adnoddau sydd eu hangen i ddatblygu strategaeth codi arian?
- Pobl – staff, aelodau’r pwyllgor, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr
- Amser – ceisiwch lunio amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith
- Gofod i weithio
- Defnydd o ffôn, cyfrifiadur, e-bost a chysylltiad rhyngrwyd
- Ymrwymiad a brwdfrydedd tuag at y broses
- Person neu grŵp enwebedig i’ch arwain trwy’r broses, i ysgrifennu a chwblhau’r strategaeth
- Dogfennaeth berthnasol h.y. cyfansoddiad, cynlluniau strategol / busnes, cyfrifon blynyddol
Enghraifft o gynnwys cynllun neu strategaeth codi arian
- Crynodeb gweithredol
- Nodau ac amcanion y mudiad, y prosiect neu'r digwyddiad
- Dadleuon dros gefnogaeth wedi’i chysylltu â nodau, amcanion a chanlyniadau
- Adolygu trefniadau codi arian
- Tueddiadau i’w hadolygu a allai barhau
- Blaenoriaethau nawdd yn y dyfodol
- Cynllun gweithredu
- Monitro ac adolygu

